Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Mercher, 28 Medi 2022
Amser:
09.30 -
12.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12959
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Eithne Hughes, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (Cymru)
Ioan Rhys Jones, UCAC Siôn Amlyn, NASWUT Heini Gruffudd, Dyfodol i’r Iaith Toni Schiavone, Cymdeithas yr Iaith Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg Elin Maher, Parents for Welsh Medium Education (RhAG) |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Delyth Jewell AS. Cytunodd y Pwyllgor i ethol Heledd Fychan AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd dros dro groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor barhau â’i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
2 Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau athrawon
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau; Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC); a NASUWT
3 Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag eiriolwyr addysg cyfrwng Cymraeg
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dyfodol i’r Iaith; Cymdeithas yr Iaith; swyddfa Comisiynydd y Gymraeg; a Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RHAG).
3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS a Sioned Williams AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ynghylch ei alwad am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.
4.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip ynghylch datblygu strategaeth ddiwylliannol i Gymru, gan ofyn yn benodol pa rôl, os o gwbl, a fydd gan y Pwyllgor yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Ôl-drafodaeth breifat
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Amlinelliad o'r ymchwiliad
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr amlinelliad ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arno